top of page
Cynllunio ar gyfer y cwricwlwm 

            

Mae disgyblion wedi bod yn rhannu eu syniadau beth maent am astudio yn ystod y tymor yn yr ysgol.

 

Os hoffech chi drafod y thema gyda'ch plentyn a rhannu eich syniadau gyda'r athrawon llenwch y ffurflen hon.

Rydym yn awyddus i wrando ar lais y disgybl a dilyn eu syniadau, lle bo'n bosibl. 

            Planning the curriculum

Pupils have been sharing their ideas on what they want to study during term time at school.

 

If you would like to discuss the theme with your child and share your ideas with the teachers please fill in this form.

 

We are keen to listen to the pupil's voice and follow their ideas, where possible.

Cyfnod Dysgu Sylfaen / Foundation Phase

Mrs Manon Jones 

                                               Cestyll 

​Y tymor hwn byddwn yn dysgu am gestyll. Rydym yn gyffrous iawn i fynd yn ôl mewn amser i ddysgu am Gestyll Cymru a bywyd mewn castell. Rydym wedi cynllunio creu castell mawr yn y gornel chwarae rôl ac yn edrych ymlaen ail-greu straeon am frenhinoedd, tywysogesau a marchogion, yn ogystal â chreu straeon ein hunain! Rydym eisiau dysgu mwy am Owain Glyndŵr a phobl enwog yn hanes Cymru. 

  

 

                                                   Castles 

This term we will learn about castles. We're really excited to go back in time to learn about Welsh Castles and castle life. We've planned to create a large castle in the role-playing corner and are looking forward to recreating stories about kings, princesses and knights, as well as creating our own stories! We want to learn more about Owain Glyndŵr and famous people in Welsh history.

Blynyddoedd 3 a 4 / Years 3 and 4

Mrs Emma Francis / Ms Lowri Roberts

Y tymor hwn rydym yn gyffrous i deithio'n ôl mewn amser i fyd y 'Celtiaid'. Rydym wedi rhannu syniadau a chael cyfle i drafod beth rydym yn ei wybod yn barod ac erbyn hyn mae gan y plant lu o gwestiynau a gwaith ymchwil o'u blaenau.

 

Sut oedd y Celtiaid yn adeiladu eu tai? Mae yna nifer o blant gydag adeiladwyr yn y teulu!

 

Pa fwydydd oedden nhw'n bwyta a sut oedd bywyd plant yn wahanol i'n hoes ni heddiw?

 

Byddwn yn gwneud gwaith map er mwyn darganfod mwy am fryngaer Craig Rhiwarth ac yn ymarfer defnyddio sgiliau hanesyddol wrth edrych ar arteffactau.

 

Yn y Gymraeg byddwn yn astudio'r stori 'Cadi a'r Celtiaid'  ac yn canolbwyntio ar ffurfiau ffeithiol yn y Saesneg.

 

Bydd digon o gyfle fod yn greadigol drwy greu tariannau ac arbrofi gyda phatrymau Celtaidd.

This term we are excited to travel back in time to the world of the 'Celts'. We have already shared ideas and had the opportunity to discuss what we know and now the children have a host of questions and research ahead of them.

 

How did the Celts build their houses? There are a number of children with builders in the family!

 

What did they eat and how was children's lives different from ours today?

 

We will be doing map work to find out more about Craig Rhiwarth hillfort and practising using historical skills when looking at artefacts.

 

In Welsh we will study the story 'Cadi a'r Celtiaid' and focus on non-fiction forms in English.

 

There will be plenty of opportunity to get creative by creating shields and experimenting with Celtic patterns.

Blynyddoedd 5 a 6  / Years 5 and 6

Miss Peate / Ms Roberts

   Y Rhufeiniaid 

                Bydd blynyddoedd 5 a 6 yn darganfod mwy am ffordd o fyw y Rhufeiniaid.  Mae'r disgyblion wedi dangos diddordeb mewn dysgu am eu cartrefi, eu harfau a'r bwydydd roeddynt yn bwyta. 

   Pwy oedd y Rhufeiniaid? Pam wnaethon nhw ymosod ar Brydain? Fedrwn ni ddarganfod tystiolaeth i ddangos eu bod wedi byw unwaith yn nyffryn Tanat. 

Byddwn yn ysgrifennu mewn gwahanol ffurfiau gan gynnwys adroddiadau papur newydd a hysbysebion yn y Saesneg. Bydd disgyblion yn llunio tŷ Rhufeinig ym Minecraft ac yn creu artrefact o ledr!  

  Mewn gwersi addysg grefyddol byddwn yn astudio mathau gwahanol o adeiladau crefyddol. Rydym yn gobeithio cael mynd i weld rhai cyn diwedd y flwyddyn. 

 

   ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

                                 Roman Life

 

     Years 5 and 6 will be learning all about the Roman way of life. Pupils have expressed an interest in learning about their homes, their weapons and the foods they ate.

 

   Who were the Romans? Why did they decide to invade Britain? Can we find any evidence to show that the Romans once lived in the Tanat valley?

  In English we will be writing for different audiences, for example writing newspaper reports and persuasive writing tasks. Pupils will have the opportunity to plan and create their own Roman villa in Minecraft as well as designing and creating an artefact from leather. 

  In R.E. we will be learning about different religious buildings and hopefully visiting a few before the end if the year.    

bottom of page